P-06-1494 Llywodraeth Cymru i ddiogelu cyllid mewn addysg rhag toriadau Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Catherine Drews, ar ôl casglu 11,040 lofnodion.

 

Geiriad y Ddeiseb:

Mae Diwygio ADY Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu cyllid mewn addysg rhag toriadau Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol. Mae nifer o adroddiadau am awdurdodau lleol yn cyhoeddi ymgynghoriadau neu gyllidebau gwirioneddol gyda thoriadau enfawr i gyllideb addysg. Mae Jeremy Miles wedi addo buddsoddi mewn addysg. Ni ellir caniatáu i hyn ddigwydd i aelodau mwyaf bregus cymdeithas. Mae adroddiadau diweddar yn dangos bod safonau addysg Cymru wedi gostwng. Addysg ein plant yw’r buddsoddiad gorau mewn cyfiawnder cymdeithasol ac economi iach.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd: